SATURDAY 19 NOVEMBER 2022

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m001f59n)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m001f59q)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m001fdpp)
Daniel Glyn

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Daniel Glyn. Music and entertainment breakfast show with Daniel Glyn.


SAT 09:00 Tudur Owen (m001fdnb)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Gig y Wal Goch (m001fdnd)
Tudur Owen yn cyflwyno cyngerdd i ddathlu llwyddiant tîm pel-droed Cymru, ac i ddymuno'n dda i'r tîm yng Nghwpan y Byd Qatar 2022. Ymhlith yr artistiaid mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Bronwen Lewis, Ifan Pritchard a Gwilym.

Llun gan Yusef Bastawy.


SAT 12:30 Chwaraeon Radio Cymru (m001fdnh)
Cymru v Georgia

Sylwebaeth fyw o drydedd gêm Cymru yng Nghyfres yr Hydref wrth iddyn nhw groesawu Georgia. Wales host Georgia in their third game of the Autumn internationals.


SAT 15:00 Chwaraeon Radio Cymru (m001fdnk)
Sylwebaethau byw o gemau Wrecsam a Chasnewydd a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.


SAT 17:30 Marc Griffiths (m001fdnm)
Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Ffion Emyr (m001fdnp)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Ffion Emyr. Music and companionship for Saturday night.



SUNDAY 20 NOVEMBER 2022

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m001fdnr)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m001fdnt)
Dechreuwch eich dydd Sul yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Sunday with Linda Griffiths' favourite music.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m001fdlz)
Mirain Iwerydd

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Mirain Iwerydd. Music and entertainment breakfast show with Mirain Iwerydd.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m001fdm1)
Robat Arwyn

Y cerddor a'r cyfansoddwr Robat Arwyn gyda ei ddewis amrywiol o gerddoriaeth ar gyfer bore Sul.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m001fdm3)
Oedfa ar thema Crist y brenin dan arweiniad Andy Herrick, Cwmann

Andy Herrick, Cwmann yn arwain oedfa sydd yn trafod Crist y brenin, fel brenin y brenhinoedd, y brenin sydd yn achub a'r brenin sydd yn byw gyda ni ac yn gwmni. Daw'r darlleniad o Lythyr Paul at y Colosiaid.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m001fdm5)
Gwenfair Griffith yn trafod pêl droed, Qatar ac Iran

Gwenfair Griffith yn trafod:

Hawliau dynol yn Qatar a phenderfyniad Bronwen Morgan ac Aled Edwards i fynd yno i gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd;

Y protestiadau gwleidyddol yn erbyn y drefn yn Iran gyda Gwennan Higham;

Tueddiadau cwltaidd cefnogwyr pêl droed gydag Alun Tudur;

& hanes agor arddangosfa am Islam yng Nghymru yng Nghaerdydd gyda Laura Jones.


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m001fdm7)
Iestyn Davies

Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg.
Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy’n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hyfforddi pobol sydd wedi eu dal yn gyrru yn gyflymach na’r terfyn, a gwaith Iestyn yw sicrhau bod y cwmnïau yng Nghymru yn cydymffurfio â rheolau iaith.

Cyn hynny, bu’r gŵr sy’n byw ym Mhorthaethwy ym Môn yn arwain y tîm oedd yn edrych ar droseddau difrifol, gan gynnwys llofruddiaethau a ddenodd sylw'r byd.

Mae Iestyn yn rhannu straeon bywyd ac yn sôn am y sialensiau a'r mwynhad a gafodd o wneud y gwaith.


SUN 14:00 Cofio (m001fdm9)
Pêl-droed

Pêl-droed - Hogia Ni yw testun Cofio heddiw gan ein bod ni yn edrych 'mlaen at Gwpan y Byd:

Clywn hanes Cwpan y Byd 1958 drwy eiriau Jack Kelsey, Cliff Jones ac Alun Williams;

Geraint H. Jenkins yn sôn am Billy Meredith;

Wyn Davies a Ken Barton yn trafod dyfarnwyr gyda T Glynne Davies;

Barry John a John Ogwen yn sôn am Georgie Best;

John Roberts Williams yn cofio arwyr y gorffennol;

Rhydwen Williams yn sôn am ei adnabyddiaeth o Jimmy Murphy;

Jude Cisse yn trafod ei phriodas gyda Djibril Cisse;

Aaron Ramsey yn siarad gyda Dylan Jones nôl yn 2007;

& Eryl Davies yn sôn am lwyddiant ei mab Ben Davies.


SUN 15:00 Hywel Gwynfryn (m001fdmc)
Amrywiaeth o gerddoriaeth, yn ogystal â phytiau o raglenni Radio Cymru o'r wythnos a fu. Music and Radio Cymru programme highlights.


SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m001fdmf)
Canu cynulleidfaol. Congregational singing.


SUN 17:00 Benbaladr (m001fdmh)
Qatar

Wrth i filoedd o Gymry heidio i Qatar i ddilyn tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd 2022, mae Alun Thomas yn sgwrsio gyda thri o Gymry sydd wedi byw yn y wlad ers blynyddoedd: y meddyg teulu Sybil Barr sydd o Gaerdydd yn enedigol; y peilot o Gaernarfon, Osian Gwyn Williams; a’r athrawes o Sir Benfro, Nia Merriman.


SUN 17:30 Y Talwrn (m001fdmk)
Cwpan y Byd Qatar 2022

Rhifyn arbennig o'r Talwrn yn dathlu dechrau Cwpan y Byd Qatar 2022, gyda thîm John Charles yn herio tîm Gary Speed.


SUN 18:30 Ar Lan Afon (m001fdmm)
Yr Afon Glaslyn

Jon Gower ac Elinor Gwynn sy'n crwydro glannau rhai o afonydd Cymru yn hel eu hanes, yn cwrdd â'r pobl sy'n byw ar eu glannau, yn pysgota'u dyfroedd, ac yn clywed storïau o'r gorffennol.


SUN 19:00 Ambell i Gân (m001fdmp)
Dafydd Idris a Mari Mathias

Gwenan Gibbard sy’n cyflwyno cyfoeth ac amrywiaeth cerddoriaeth werin Cymru.

Mae Gwenan yn sgwrsio efo’r canwr gwerin Dafydd Idris, ac fe glywn sesiwn newydd gan Mari Mathias.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m001fdmr)
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m001fdmt)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 21 NOVEMBER 2022

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m001fdmw)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m001fdmy)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m001fdnw)
Lisa Angharad

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.


MON 09:00 Lisa Gwilym (m001fdny)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.


MON 11:00 Bore Cothi (m001fdp0)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


MON 13:00 Dros Ginio (m001fdp2)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


MON 14:00 Ifan Jones Evans (m001fdp4)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy, hefyd yn cynnwys sgwrs efo Carl Roberts ac Alun Williams yn Qatar. Music and chat.


MON 17:00 Post Prynhawn (m001fdp6)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


MON 18:00 Chwaraeon Radio Cymru (m001fdp8)
Cymru v UDA

Sylwebaeth fyw o gêm Cymru v UDA yng Nghwpan y Byd Qatar 2022. Live commentary from Wales v USA in the World Cup.


MON 21:00 QatAr y Marc (m001fdpb)
Dylan Jones a Nicky John sy'n trafod gêm ddiweddaraf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022. Dylan Jones and Nicky John discuss Wales' latest game at the World Cup.


MON 22:00 Caryl (m001fdpf)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



TUESDAY 22 NOVEMBER 2022

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m001fdph)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m001fdpk)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m001fdqx)
Lisa Angharad

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.


TUE 09:00 Lisa Gwilym (m001fdqz)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.


TUE 11:00 Bore Cothi (m001fdr1)
Eisiau coginio gyda Spam?

Rydyn ni ar y ffordd efo dau o wirfoddolwyr prosiect newydd Grŵp Beicio Ogwen.

Munud i Feddwl yng nghwmni Heddyr Gregory.

Sgwrs efo rhai o Gôr Meibion Dyfnant, sy'n chwilio am aelodau newydd.

Gan fod arian yn brin i lawer ohonom y dyddiau hyn, mae llawer yn edrych am brydau sy'n hen ffefrynnau, felly heddiw mae Lisa Fearn yng Nghegin Cothi yn coginio efo Spam.


TUE 13:00 Dros Ginio (m001fdr3)
Jennifer Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Jennifer Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


TUE 14:00 Ifan Jones Evans (m001fdr5)
Pigion Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru

Cyfle i glywed mwy o bigion Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru, a gynhaliwyd yn Abergwaun eleni.

Hefyd, y diweddaraf o Gwmderi yn Clecs y Cwm gyda Terwyn Davies.

A phwy fydd y Top Dog yng Nghwis Mawr y Prynhawn?


TUE 17:00 Post Prynhawn (m001fdr7)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m001fdr9)
Hanna Hopwood a'i gwesteion sy'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws. Hanna Hopwood and her guests discuss things that can make life easier.


TUE 18:30 Clonc (m0017c9n)
Pennod 5

Uchafbwyntiau wythnos arall ddifyr, amrywiol ac… anarferol gyda chyflwynwyr gorsaf unigryw Radio Clonc.

Ysgrifenwyd gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn.

Golygydd Sgriptiau: Sarah Breese.

Cast: Mari Beard, Iwan Charles, Geraint Rhys Edwards, Sian Harries, Carli De La Hughes, Macsen McKay, Tudur Owen, Lowri Wynn, Rhian Morgan.


TUE 19:00 Georgia Ruth (m001fdrc)
Dewis eclectig o gerddoriaeth o gasgliad Georgia Ruth, yn cynnwys cerddoriaeth ryngwladol, byd a thraciau Cymraeg arbrofol. An eclectic selection of music.


TUE 21:00 Caryl (m001fdrf)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



WEDNESDAY 23 NOVEMBER 2022

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m001fdrh)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m001fdrk)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m001fdq8)
Lisa Angharad

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.


WED 09:00 Lisa Gwilym (m001fdqb)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.


WED 11:00 Bore Cothi (m001fdqd)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


WED 13:00 Dros Ginio (m001fdqg)
Vaughan Roderick

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Vaughan Roderick sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


WED 14:00 Ifan Jones Evans (m001fdqj)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


WED 17:00 Post Prynhawn (m001fdql)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


WED 18:00 Cofio (m001fdm9)
[Repeat of broadcast at 14:00 on Sunday]


WED 19:00 Mirain Iwerydd (m001fdqn)
Cerddoriaeth newydd Cymru. New Welsh music.


WED 21:00 Caryl (m001fdqq)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



THURSDAY 24 NOVEMBER 2022

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m001fdqs)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m001fdqv)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m001fdrw)
Lisa Angharad

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.


THU 09:00 Lisa Gwilym (m001fdry)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.


THU 11:00 Bore Cothi (m001fds0)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


THU 13:00 Dros Ginio (m001fds2)
Catrin Haf Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


THU 14:00 Ifan Jones Evans (m001fds4)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


THU 17:00 Post Prynhawn (m001fds6)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


THU 18:00 Beti a'i Phobol (m001fdm7)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


THU 19:00 Huw Stephens (m001fds8)
Cerddoriaeth newydd, ambell berl anghyfarwydd a sgwrs i gael gwybod pa ganeuon sydd wedi newid bywydau pobl. New music and some unexpected gems from the archive.


THU 21:00 Caryl (m001fdsb)
Ffion Emyr yn cyflwyno

Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Ffion Emyr yn sedd Caryl Parry Jones. Music and fun with Ffion Emyr sitting in for Caryl Parry Jones.



FRIDAY 25 NOVEMBER 2022

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m001fdsd)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m001fdsg)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno

Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore gyda Daniel Jenkins-Jones yn lle John Hardy. Early breakfast.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m001fdsl)
Geraint Hardy

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Geraint Hardy. Music and entertainment breakfast show with Geraint Hardy.


FRI 09:00 Chwaraeon Radio Cymru (m001fdsn)
Cymru v Iran

Sylwebaeth fyw o gêm Cymru v Iran yng Nghwpan y Byd Qatar 2022. Live commentary from Wales v Iran in the World Cup.


FRI 11:00 Dom James (m001fdsq)
Dom James yn chwarae eich hoff fiwsig. Dom James plays your favourite music.


FRI 13:00 Dros Ginio (m001fdss)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


FRI 14:00 Tudur Owen (m001fdsv)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m001fdsy)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


FRI 18:00 Lauren Moore (m001fdt2)
Cerddoriaeth ar gyfer nos Wener yng nghwmni Lauren Moore. Friday night music with Lauren Moore.


FRI 21:00 Nos Wener Ffion Emyr (m001fdt5)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda tair awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.