SATURDAY 09 JULY 2022

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m0018zhj)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m0018zhl)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m00193b9)
Daniel Glyn

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Daniel Glyn. Music and entertainment breakfast show with Daniel Glyn.


SAT 09:00 Tudur Owen (m00193bf)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m00193bk)
Seren y West End Teleri Hughes yn dewis Caneuon Codi Calon;

Straeon y we gan Tryytan ap Owen;

A hel atgofion am y flwyddyn 2007.


SAT 14:00 Pnawn Sadwrn Catrin Angharad (m00193bn)
Cerddoriaeth a sgyrsiau i godi calon, gyda Catrin Angharad. Music and chat for Saturday afternoon.


SAT 15:30 Chwaraeon Radio Cymru (m00193bs)
De Affrica v Cymru

Sylwebaeth o gêm rygbi De Affrica v Cymru yn Bloemfontein fel rhan o Gyfres yr Haf. Commentary from South Africa v Wales in Bloemfontein.


SAT 18:20 Marc Griffiths (m0019dny)
Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Ffion Emyr (m00193bv)
Gaynor Davies yn cyflwyno

Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Gaynor Davies yn sedd Ffion Emyr. Music and companionship for Saturday night, with Gaynor Davies sitting in for Ffion.



SUNDAY 10 JULY 2022

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m00193bx)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m00193bz)
Dechreuwch eich dydd Sul yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Sunday with Linda Griffiths' favourite music.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m001939j)
Mirain Iwerydd

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Mirain Iwerydd. Music and entertainment breakfast show with Mirain Iwerydd.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m001939l)
Gwawr Owen

Gwawr Owen yn cyflwyno detholiad o gerddoriaeth ar gyfer bore Sul. Music for Sunday morning, with Gwawr Owen.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m001939n)
Beti Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr

Oedfa ar derfyn cynhadledd Undeb yr Annibynwyr dan ofal eu llywydd Beti Wyn James, Caerfyrddin.

Mae'r oedfa yn trafod gobaith mewn cyfnodau o anobaith a goleuni mewn cyfnodau tywyll a chyfrifoldeb y Cristion a'r eglwys i rannu'r gobaith a'r goleuni.

Cynorthwyir gan Ethan Woods a Gwenan Jones, gydag Ethan yn darllen o broffwydoliaeth Eseia ac efengyl Ioan a Gwenan yn arwain mewn gweddi.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m001939q)
Gwenfair Griffith yn cyflwyno

Gwenfair Griffith yn trafod:-

Beth ydym yn ei ddisgwyl gan wleidyddion a rhyddid i fynegi barn gyda Rhys ab Owen ac Aled Edwards;

Undeb Annibynwyr yn dathlu 150 o flynyddoedd gyda Geraint Tudur a Dyfrig Rees;
Eglwysi dementia gyfeillgar gyda Dyfrig Rees a Sian Meinir;

A chofio Nia Rhosier gyda Beryl Vaughan.


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m001939s)
Nicola Davies

Cobiau Cymreig yw diléit gwestai Beti George, ac ar ôl graddio ym Mhrifysgol Abertawe, nol aeth hi i’w chartref yng Ngheredigion fel ei bod yn medru helpu gyda’r busnes bridio cobiau, Bridfa Maesmynach. Mae hi’n weithgar yn y gymuned amaethyddol, yn y Ffermwyr Ifanc a gyda’r Sioe Frenhinol, ac yn ddiweddar fe ddaeth y fenyw gyntaf i fod yn Gadeirydd Cyngor y Sioe.

Cafodd ei magu ar fferm 185 acer, Maesmynach Cribyn, Llanbed. Roedd ei thad yn arfer godro am gyfnod ond bellach maent yn cadw ceffylau’n unig. Mae ganddynt rhwng 90- 00 o gobiau Cymreig. Magu maen nhw’n bennaf, felly mae’r rhan fwyaf o‘r cobiau’n ebolion.

Yn ogystal â bod yn Gadeirydd y Cyngor mae Nicola yn aelod o sawl pwyllgor arall. Pwyllgorau fel Da Byw, Cyllid, Pwyllgor Ieuenctid a phwyllgor rhaglenni a staffio.

Mae’r Sioe ar hyn o bryd yn mynd drwy gyfnod anodd meddai Nicola. Bu’r cynllun ffyrlo o help mawr ac fe wnaethant lwyddo i gadw eu staff. Ond mae Nicola’n credu eu bod yn wynebu cyfnod anoddach wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Does dim ffyrlo bellach ac mae cwmwl Covid dal yno. Mae llawer iawn o fusnesau, meddai Nicola wedi mynd i’r wal. Mae costau wedi codi, prisiau cytundebau wedi mynd i fyny. Mae llawer iawn o fusnesau yn methu cael y staff. Mae contractwyr sy’n darparu bwyd, er enghraifft yn cael trafferth cael staff ac yn gorfod talu mwy. Mae’n gyfnod ansicr iawn ar hyn o bryd. Mae Nicola ond yn gobeithio y bydd pobl yn dod drwy’r giât. Tydi hi ddim yn fêl i gyd.

Cawn glywed hanesion ei magwraeth ar y fferm, ei theulu a’i gyrfa, yn ogystal a chlywed ambell i gan sydd wedi creu argraff arni.


SUN 14:00 Cofio (m001939v)
Hywel yn 80!

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy i ddathlu penblwydd Hywel Gwynfryn yn 80. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.


SUN 15:00 Hywel Gwynfryn (m001939x)
Amrywiaeth o gerddoriaeth, yn ogystal â phytiau o raglenni Radio Cymru o'r wythnos a fu. Music and Radio Cymru programme highlights.


SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m001939z)
Cymanfa Unedig Pen Llŷn

Iwan Williams yn cyflwyno detholiad o emynau o Gymanfa Unedig Pen Llŷn o gapel Rhydbach, Botwnnog. Congregational singing.


SUN 17:00 Stori Tic Toc (m00193b1)
Beic Mari

Dewch i wrando ar stori Mari a’i phrofiad hudol wrth fynd ar ei beic. Rhian Blythe sydd yn adrodd stori gan Miriam Sautin.


SUN 17:05 Dei Tomos (m00193b3)
Yn gwmni i Dei mae Hefin Wyn sydd wedi tyrchu'n ddwfn i gefndir Twm Carnabwth a phrotestiadau Merched Beca yn yr Efail Wen tra bod Bardd y Mis, Aled Lewis Evans, yn clodfori pentref Rhosllannerchrugog - cartref Eisteddfod Powys eleni.

Llên gwerin ardal Bangor yw pwnc Howard Huws ac mae Gwennant Pyrs yn egluro pam mai Y Gwanwyn gan Dic Jones yw ei hoff gerdd.


SUN 18:30 Be Ddoth Gynta? (m00193b5)
Be Ddoth Gynta?

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Hywel Gwynfryn yn 80, Lisa Gwilym sy'n holi Hywel am y straeon sydd wedi ysbrydoli geiriau rhai o’i ganeuon fwyaf adnabyddus.

Yn y gyntaf o ddwy raglen cawn glywed sut aeth Hywel o adrodd adnodau fel bachgen ifanc yng Nghapel Smyrna Llangefni yn yr 50au i ysgrifennu'r Opera Roc Melltith ar y nyth gyda Endaf Emlyn yn 1974.


SUN 19:00 Eisteddfod AmGen 2021 (m000yc69)
Ffeinal Y Talwrn 2021: Dros yr Aber v Beirdd Myrddin

Dros yr Aber a Beirdd Myrddin yn cystadlu yn Rownd Derfynol Y Talwrn 2021. The final of Radio Cymru's annual poetry contest.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m00193bb)
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m00193bg)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 11 JULY 2022

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m00193bl)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m00193br)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m001941h)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


MON 09:00 Aled Hughes (m00193zm)
Bwystfilod a Chreaduriaid

Bwystfilod a chreaduriaid mewn chwedlau Cymreig sydd yn mynd â sylw Mair Tomos Ifans;

Mae Cai O'Marah yn trafod ei antur 450 o filltiroedd ar hyd y Pacific Coast Trail;

Wrth i drefniant Adwaith o "Ar Lan y Môr” ymddangos ar eu albwm newydd, Gwennan Gibbard sydd yn sôn am drefniannau eraill o'r gân;

Ac Elin Mars Jones sydd yn trafod ei gwaith yn cloddio am aur yn ardal Dolgellau.


MON 11:00 Bore Cothi (m00193zr)
Aelodau newydd yr Orsedd

Mae Shân yn dod i adnabod un o aelodau newydd yr Orsedd, Wyn Melville Jones;

Munud i feddwl yng nghwmni Mari Emlyn;

Alison Huw sy'n trafod eirin;

A sgwrs gyda Lisa Medi o Ysgol Gymraeg Llundain.


MON 13:00 Dros Ginio (m00193zv)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


MON 14:00 Ifan Jones Evans (m00193zz)
Osian Huw Williams o'r Candelas sy'n cadw cwmni i Ifan i sôn am Drac yr Wythnos - Cysgod Mis Hydref;

Hefyd, mwy o Glecs y Cwm gyda Terwyn Davies, yn crynhoi holl straeon yr wythnos yn Pobol y Cwm.


MON 17:00 Post Prynhawn (m0019404)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


MON 18:00 Troi'r Tir (m00193kw)
Ffermwyr Ceredigion a'i seidr!

Terwyn Davies sy'n clywed hanes criw o ffermwyr gweithgar o Geredigion sy'n gwneud seidr, a'i werthu i'r gymuned leol;

Llŷr Jones o Lanfihangel Glyn Myfyr yn sôn am ei waith fel ffermwr sy'n edrych am gyfleoedd newydd o hyd;

Ann Whittall o Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre, yn trafod y ffaith bod yr amgueddfa wedi'i chynnwys ar restr o lefydd i ymweld â nhw ym mhapur newydd The Guardian;

Cyngor ar dyfu porfa gyda Rhodri Jones o Brosiect Porfa Cymru, a Hannah Thomas o Lanfyrnach sy'n adolygu'r wasg amaethyddol.


MON 18:30 Recordiau Rhys Mwyn (m001940b)
Curiad Gwag

Yr awdures Rebecca Roberts sy'n trafod ei nofel ddiweddara "Curiad Gwag" sy'n dilyn hynt a helynt aelodau band roc o'r enw Konquest, sy'n hanu o Sir y Fflint. Y gantores P.P Arnold yn trafod ei hunangofiant "Soul Survivor".


MON 21:00 Stiwdio gyda Nia Roberts (m0018q1b)
Theatr Bara Caws

Ymunwch gyda Nia Roberts am awr fywiog o drin a thrafod y celfyddydau, yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Nia yn camu i fyd y theatr ac yn cyflwyno'r rhaglen o ganolfan Theatr Bara Caws yng Nghaernarfon gan fod y cwmni ar drothwy cynhyrchiad o ddramâu byrion newydd sbon gan Aled Jones Williams o'r enw 'Lleisiau’. Mae rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru yn eu perfformio ar lwyfan bach Theatr Bara Caws: John Ogwen a Maureen Rhys, Dyfan Roberts, Cefin Roberts a Valmai Jones.


MON 22:00 Geraint Lloyd (m001940q)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



TUESDAY 12 JULY 2022

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m001940w)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m0019411)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m001942b)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


TUE 09:00 Aled Hughes (m001942d)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


TUE 11:00 Bore Cothi (m001942g)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


TUE 13:00 Dros Ginio (m001942j)
Jennifer Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Jennifer Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


TUE 14:00 Ifan Jones Evans (m001942l)
Catrin Angharad yn cyflwyno

Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, gyda Catrin Angharad yn cyflwyno yn lle Ifan. Music and chat with Catrin Angharad sitting in for Ifan.


TUE 17:00 Post Prynhawn (m001942n)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m001942q)
Hanna Hopwood a'i gwesteion sy'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws. Hanna Hopwood and her guests discuss things that can make life easier.


TUE 18:30 Georgia Ruth (m001942s)
Dewis eclectig o gerddoriaeth o gasgliad Georgia Ruth, yn cynnwys cerddoriaeth ryngwladol, byd a thraciau Cymraeg arbrofol. An eclectic selection of music.


TUE 21:00 Dei Tomos (m001942v)
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant, mewn fersiwn fyrrach o raglen nos Sul. A shortened edition of Dei's Sunday evening programme.


TUE 22:00 Geraint Lloyd (m001942x)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



WEDNESDAY 13 JULY 2022

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m001942z)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m0019431)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m001947k)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


WED 09:00 Aled Hughes (m00193ws)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


WED 11:00 Bore Cothi (m00193wv)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


WED 13:00 Dros Ginio (m00193wx)
Vaughan Roderick

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Vaughan Roderick sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


WED 14:00 Ifan Jones Evans (m00193wz)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


WED 17:00 Post Prynhawn (m00193x3)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


WED 18:00 Be Ddoth Gynta? (m00193b5)
[Repeat of broadcast at 18:30 on Sunday]


WED 18:30 Lisa Gwilym yn Cyflwyno... (m00193x5)
Cerddoriaeth newydd Cymru. New Welsh music.


WED 21:00 Eisteddfod AmGen 2021 (m000yc69)
[Repeat of broadcast at 19:00 on Sunday]


WED 22:00 Geraint Lloyd (m00193x7)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



THURSDAY 14 JULY 2022

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m00193x9)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m00193xc)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m001949l)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


THU 09:00 Aled Hughes (m001949n)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


THU 11:00 Bore Cothi (m001949q)
Heledd Cynwal yn cyflwyno

Croeso cynnes dros baned gyda Heledd Cynwal yn cyflwyno yn lle Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Heledd Cynwal sitting in for Shân Cothi.


THU 13:00 Dros Ginio (m001949s)
Catrin Haf Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


THU 14:00 Ifan Jones Evans (m001949v)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


THU 17:00 Post Prynhawn (m001949x)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


THU 18:00 Ar Blât (m001949z)
Series 1

14/07/2022

Beca Lyne-Pirkis sy’n trafod bwyd gyda rhai o wynebau cyfarwydd Cymru. Beca Lyne-Pirkis discusses food with some of Wales' familiar faces.


THU 18:30 Byd Huw Stephens (m00194b1)
Cerddoriaeth newydd, ambell berl anghyfarwydd a sgwrs i gael gwybod pa ganeuon sydd wedi newid bywydau pobl. New music and some unexpected gems from the archive.


THU 21:00 Beti a'i Phobol (m001939s)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


THU 22:00 Geraint Lloyd (m00194b3)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



FRIDAY 15 JULY 2022

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m00194b5)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m00194b7)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m00194zt)
Geraint Hardy

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Geraint Hardy. Music and entertainment breakfast show with Geraint Hardy.


FRI 09:00 Trystan ac Emma (m00194kb)
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford. Music and entertainment with Trystan Ellis-Morris and Emma Walford.


FRI 11:00 Bore Cothi (m00194kd)
Heledd Cynwal yn cyflwyno

Croeso cynnes dros baned gyda Heledd Cynwal yn cyflwyno yn lle Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Heledd Cynwal sitting in for Shân Cothi.


FRI 13:00 Dros Ginio (m00194kh)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


FRI 14:00 Tudur Owen (m00194km)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m00194kr)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


FRI 18:00 Lauren Moore (m00194kw)
Mirain Iwerydd yn cyflwyno

Cerddoriaeth ar gyfer nos Wener yng nghwmni Mirain Iwerydd. Friday night music with Mirain Iwerydd.


FRI 20:00 Penwythnos Geth a Ger (m00194l0)
Cerddoriaeth a hwyl gyda Geth a Ger, gan gynnwys Llinell yr Wythnos Pobol y Cwm! Music and fun to start the weekend.


FRI 22:00 Nos Wener Ffion Emyr (m00194l4)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda dwy awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.