SATURDAY 14 MAY 2022

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m00175lq)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m00175ls)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m0017cx5)
Daniel Glyn

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Daniel Glyn. Music and entertainment breakfast show with Daniel Glyn.


SAT 09:00 Tudur Owen (m0017cbl)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m0017cbn)
Caneuon Codi Calon gyda Leri Ann

Y gantores a'r actores Leri Ann yn dewis Caneuon Codi Calon.

Straeon y We gan Trystan ab Owen, a hel atgofion am y flwyddyn 1999.


SAT 14:00 Pnawn Sadwrn Catrin Angharad (m0017cbq)
Cerddoriaeth a sgyrsiau i godi calon, gyda Catrin Angharad. Music and chat for a Saturday afternoon, with Catrin Angharad.


SAT 17:30 Marc Griffiths (m0017cbs)
Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Gaynor (m0016q4s)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn gyda Gaynor Davies. Music and companionship for Saturday night with Gaynor Davies.



SUNDAY 15 MAY 2022

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m0017cbx)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m0017cbz)
Dechreuwch eich dydd Sul yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Sunday with Linda Griffiths' favourite music.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m0017cyh)
Mirain Iwerydd

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Mirain Iwerydd. Music and entertainment breakfast show with Mirain Iwerydd.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m0017c86)
Sioned Webb

Digon o gerddoriaeth amrywiol i'ch swyno ar fore Sul a hynny yng nghwmni'r cerddor a'r cyfansoddwr Sioned Webb.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m0017c88)
Wythnos Cymorth Cristnogol

Dyfed Roberts yn arwain Oedfa ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol gyda chyfraniadau gan staff a gwirfoddolwyr y mudiad.

Mae Nia Williams, Pwllheli, Rhys Jones, Llanbed a David Collins, Caerdydd yn rhannu eu profiad fel gwirfoddolwyr tra bod Eleri Alter a Nathan Munday, y ddau yn aelodau o staff Cymorth Cristnogol, yn darllen yr Ysgrythur ac arwain mewn gweddi.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m0017c8b)
Gwenfair Griffith yn cyflwyno

Gwenfair Griffith yn trafod:-

Gobaith a iechyd meddwl gyda Guto Llywelyn ac Elin Ellis Jones ynghyd â sgwrs am y Fforwm Ffydd gynhelir yn Llandudno;

Wythnos Cymorth Cristnogol gyda Mari McNeill a Janice Jones;

A dathlu dau gan mlwyddiant Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda Medwin Hughes.


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m0017c8d)
Dr Sara Louise Wheeler

Beti George yn sgwrsio gyda'r bardd, llenor ac artist llawrydd Dr Sara Louise Wheeler.

Fe ddaw Sara’n wreiddiol o Wrecsam, ac mae hi’n falch iawn o’i acen Rhos. Cafodd ei magu ger coedwig Erddig ar aelwyd ddwyieithog, teulu ei Mam yn hanu’n wreiddiol o’r de, a’I Thad o Rosllannerchrugog, roedd o a’i frodyr yn gweithio yn John Summers, y diwydiant haearn a dur yn Shotton. Aelwyd cwbl Gymreig oedd hon, er fel oedd ei Nain a’i Anti Gwladys yn hoff o ddweud “nid Cymraeg iawn chwaith”! (cyhoeddodd Sara gerdd yng nghylchgrawn Barddas am hyn yn 2020 ac mae’r gerdd ar gael yn ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth ‘Rwdlan a Bwhwman’, ac ar gael i’w lawrlwytho am ddim fel PDF o wefan Gwasg y Gororau.

Mae gan Sara gyflwr genetig prin, fe ddaw o deulu ei thaid, sef Syndrom Waardenburg Math 1. Mae 2 ‘gamgymeriad’ ar y gennyn ‘Pax 3’ yn arwain at ddadbigmentiad yn y croen, gwallt, llygaid a chochlea, ac sydd yn golygu ei bod yn colli clyw. Mae ei chyflwr a’r profiadau mae hi wedi’u cael yn rhai heriol ac fe gafodd gyfnod o iselder dwys ac mae hi’n gobeithio y bydd siarad yn agored am hyn yn gymorth i eraill.

Mae hi’n fardd ac yn llenor ac yn artist llawrydd. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu drama gyda Theatr Genedlaethol Cymru, sef y ‘Y Dywysoges Arian’, sy’n mynd i’r afael â chymeriad sy’n dysgu byw yn ei chroen wrth i’r croen hwnnw drawsffurfio. Bydd yr Opera Budrchwilod yn cyfuno elfennau o dechnegau theatr glywedol a byddar. Mae hi hefyd wrthi’n sgwennu llawer o gerddi am ei chyflwr ac mae hi’n gobeithio paratoi cyfrol newydd o farddoniaeth o’r enw ‘Y Dywysoges Arian’.


SUN 14:00 Cofio (m0017c8g)
Gwyliau

Ymysg y pytiau o'r archif mae Owain Gwilym yng Ngwyl y Faenol yn 2000, Dr Gwynfor Evans yn annerch y gynulleidfa yng Ngwyl Gerdd Dant 1984 a Dyfan Tudur a Brychan Llyr yng Ngwyl Cae yn Nefyn yn 2002.


SUN 14:45 Chwaraeon Radio Cymru (m0017cyl)
Dagenham & Redbridge v Wrecsam

Sylwebaeth ar gêm Dagenham & Redbridge v Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol. Commentary on Dagenham & Redbridge v Wrexham in the National league.


SUN 17:00 Stori Tic Toc (m000ntnd)
Nedw'n Mynd i Nofio

Dewch i wrando ar stori am Nedw’n dysgu nofio gyda help Mr Fflôt. A story about Nedw learning to swim.


SUN 17:05 Dei Tomos (m0017c8l)
Yn gwmni i Dei mae Menna Elfyn sydd yn trafod ei chyfrol newydd o farddoniaeth ac mae Math Williams yn adolygu geiriadur daeareg newydd.

Mae Dei hefyd yn cael cyfle i bori drwy lyfrgell Dafydd Jones o lyfrau hynafol a phrin tra mae Gwyn Elfyn yn sgwrsio am ei hoff gerdd - un o gerddi Gwyn Thomas.


SUN 18:30 Papur Ddoe (m0017c8n)
Elin Tomos sy’n dilyn trywydd yr hanesion sy’n cuddio rhwng cloriau ein hen bapurau newydd. Yn y gyfres hon cawn ddod i wybod mwy am rai o droseddau tywyll Cymru, clywed hanes ambell ddirgelwch a chwrdd â sawl dihiryn.


SUN 19:00 Y Talwrn (m0017c8q)
Y Cwps a'r Gwylliaid Cochion

Y Cwps a'r Gwylliaid Cochion yn cystadlu i fod yn bencampwyr Y Talwrn yn 2022. Two teams of bards compete in Radio Cymru's annual poetry contest.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m0017c8s)
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m0017c8v)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 16 MAY 2022

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m0017c8x)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m0017c8z)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m0017cxg)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


MON 09:00 Aled Hughes (m0017c6l)
Derbyn diagnosis ADHD yn hŷn

Mali Haf sydd yn trafod derbyn diagnosis o ADHD yn hŷn.

Ymweliad i Dafarn Cymunedol yr Heliwr, Nefyn yng nghwmni Gwenno Williams.

Sylw i Driban yr Urdd sydd wedi ymddangos ar un o fryniau Dyffryn Clwyd yng nghwmni Cledwyn a Brian Jones,

Ac mae Bardd y Mis, Dafydd Pritchard, yn ymuno gyda Aled am sgwrs.


MON 11:00 Bore Cothi (m0017c6n)
Yn y gegin efo Nerys Howell, ac yn trafod coginio gyda ffrwythau tun.

Elen Pencwm efo Munud i Feddwl.

Y gantores ac actores Angharad Griffiths yn sgwrsio am newid trywydd yn broffesiynol a'i gyrfa newydd fel dietegydd.

Sgwrs efo'r delynores Mared Emyr.


MON 13:00 Dros Ginio (m0017c6q)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


MON 14:00 Ifan Evans (m0017c6s)
Twm Heard o'r grŵp Dienw yw gwestai Ifan, i sôn am Drac yr Wythnos, sef 'Targed'.

Hefyd mwy o Glecs y Cwm gyda Terwyn Davies.


MON 17:00 Post Prynhawn (m0017c6v)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


MON 18:00 Troi'r Tir (m0017c6x)
Dechrau godro ar fferm yng Ngheredigion

Terwyn Davies sy'n clywed hanes Stephen a Claire Jones o fferm Pant yn Llanddewi Brefi, sydd wedi troi o fod yn fferm bîff a defaid i fod yn fferm odro.

Awdur y llyfr newydd Welsh Food Stories, Carwyn Graves sy'n olrhain hanes rhai o fwydydd amlycaf Cymru;

Y newyddion a'r prisiau diweddaraf o'r diwydiant gwlân gan Gareth Jones, Pennaeth Marchnata Gwlân Prydain;

Rhodri Jones o Gyswllt Ffermio sy'n sôn am ganlyniadau diweddaraf Prosiect Porfa Cymru, ac Erin Fflur McNaught, Llysgenhades Myfyrwyr a Ffermwyr Ifanc NFU Cymru sy'n adolygu'r wasg amaethyddol.


MON 18:30 Recordiau Rhys Mwyn (m0017c6z)
Mary Hopkin yn y Royal Festival Hall, Llundain

Jessica Lee Morgan, merch Mary Hopkin, yn trafod casgliad "Live at The Royal Festival Hall 1972" yn 50 oed.


MON 21:00 Stiwdio gyda Nia Roberts (m0017c71)
Mae Nia Roberts yn sgwrsio gyda dau actor, Richard Lynch ac Iwan Davies, sydd yng nghynhyrchiad ‘The Corn is Green’y National Theatre, ar hyn o bryd, yn ogystal ag argraffiadau’r sylwebydd theatrig Sioned William am y cynhyrchiad.

Hefyd, ymweliad ag arddangosfa yn Oriel Martin Tinney, Caerdydd, sydd yn nodi canmlwyddiant geni’r artist o Abertawe, Jack Jones.

Annog pobol o gymunedau lleiafrifol ethnig i ysgrifennu straeon Cymraeg i blant bach ydy bwriad cynllun 'AwDUra', lansiwyd yn ddiweddar gan y Mudiad Meithrin – Gwenllian Lansdown, Casia Wiliam a Nia Morais sydd yn trafod mwy am y prosiect.


MON 22:00 Geraint Lloyd (m0017c73)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



TUESDAY 17 MAY 2022

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m0017c75)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m0017c77)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m0017d2y)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


TUE 09:00 Aled Hughes (m0017c7c)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


TUE 11:00 Bore Cothi (m0017c7f)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


TUE 13:00 Dros Ginio (m0017c7h)
Gwenllian Grigg

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Gwenllian Grigg sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


TUE 14:00 Ifan Evans (m0017c7k)
Aled Hall yn Rhoi'r Byd yn ei Le

Y canwr o Ddolgrân ger Pencader, Aled Hall sy'n sgwrsio gydag Ifan, i Roi'r Byd yn ei Le.

Hefyd, pwy fydd Top Dog y dydd yng Nghwis Mawr y Prynhawn?


TUE 17:00 Post Prynhawn (m0017c7m)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m0017c7p)
Hanna Hopwood a'i gwesteion sy'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws. Hanna Hopwood and her guests discuss things that can make life easier.


TUE 18:30 Georgia Ruth (m0017c7r)
Dewis eclectig o gerddoriaeth o gasgliad Georgia Ruth, yn cynnwys cerddoriaeth ryngwladol, byd a thraciau Cymraeg arbrofol. An eclectic selection of music.


TUE 21:00 Dei Tomos (m0017c7t)
Dei Tomos

Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant, mewn fersiwn fyrrach o raglen nos Sul. A shortened edition of Dei's Sunday evening programme.


TUE 22:00 Geraint Lloyd (m0017c7w)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



WEDNESDAY 18 MAY 2022

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m0017c7y)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m0017c80)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m0017d6j)
Lisa Angharad

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.


WED 09:00 Aled Hughes (m0017c9f)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


WED 11:00 Bore Cothi (m0017c9k)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


WED 13:00 Dros Ginio (m0017c9p)
Vaughan Roderick

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Vaughan Roderick sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


WED 14:00 Ifan Evans (m0017c9t)
Catrin Angharad yn cyflwyno

Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, gyda Catrin Angharad yn cadw sedd Ifan yn gynnes. Music and chat, plus a competition or two, with Catrin Angharad sitting in for Ifan.


WED 17:00 Post Prynhawn (m0017c9y)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


WED 18:00 Papur Ddoe (m0017c8n)
[Repeat of broadcast at 18:30 on Sunday]


WED 18:30 Lisa Gwilym yn Cyflwyno... (m0017cb2)
Cerddoriaeth newydd Cymru. New Welsh music.


WED 21:00 Y Talwrn (m0017c8q)
[Repeat of broadcast at 19:00 on Sunday]


WED 22:00 Geraint Lloyd (m0017cb6)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



THURSDAY 19 MAY 2022

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m0017cb8)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m0017cbb)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m0017d8q)
Lisa Angharad

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.


THU 09:00 Aled Hughes (m0017c93)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


THU 11:00 Bore Cothi (m0017c95)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


THU 13:00 Dros Ginio (m0017c98)
Catrin Haf Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


THU 14:00 Ifan Evans (m0017c9d)
Criw Ar y Marc yn westeion

Mae Dylan Jones a chriw rhaglen Ar y Marc yn westeion i Ifan, i sgwrsio am gêm fawr tîm pêl-droed Wrecsam yn Wembley.

Hefyd, Heledd Roberts sy'n dewis rhai o'i hoff straeon yn y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos.


THU 17:00 Post Prynhawn (m0017c9j)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


THU 18:00 Clonc (m0017c9n)
Pennod 5

Uchafbwyntiau wythnos arall ddifyr, amrywiol ac… anarferol gyda chyflwynwyr gorsaf unigryw Radio Clonc.

Ysgrifenwyd gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn

Golygydd Sgriptiau: Sarah Breese

Cast: Mari Beard, Iwan Charles, Geraint Rhys Edwards, Sian Harries, Carli De La Hughes, Macsen McKay, Tudur Owen, Lowri Wynn, Rhian Morgan.


THU 18:30 Byd Huw Stephens (m0017c9s)
Cerddoriaeth newydd, ambell berl anghyfarwydd a sgwrs i gael gwybod pa ganeuon sydd wedi newid bywydau pobl. New music and some unexpected gems from the archive.


THU 21:00 Beti a'i Phobol (m0017c8d)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


THU 22:00 Geraint Lloyd (m0017c9x)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



FRIDAY 20 MAY 2022

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m0017cb1)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m0017cb5)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m0017d8g)
Lisa Angharad

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.


FRI 09:00 Trystan ac Emma (m0017cc3)
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford. Music and entertainment with Trystan Ellis-Morris and Emma Walford.


FRI 11:00 Bore Cothi (m0017cc5)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


FRI 13:00 Dros Ginio (m0017cc7)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


FRI 14:00 Tudur Owen (m0017cc9)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m0017ccc)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


FRI 18:00 Lauren Moore (m0017ccf)
Cerddoriaeth ar gyfer nos Wener yng nghwmni Lauren Moore. Friday night music with Lauren Moore.


FRI 20:00 Penwythnos Geth a Ger (m0017cch)
Cerddoriaeth a hwyl gyda Geth a Ger, gan gynnwys Llinell yr Wythnos Pobol y Cwm! Music and fun to start the weekend.


FRI 22:00 Nos Wener Ffion Emyr (m0017cck)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda dwy awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.