SATURDAY 19 FEBRUARY 2022

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m0014gxm)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m0014gxp)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m0014ntt)
Daniel Glyn

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Daniel Glyn. Music and entertainment breakfast show with Daniel Glyn.


SAT 09:00 Tudur Owen (m0014ntw)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m0014nty)
Yr actor Siôn Eifion yn dewis Caneuon Codi Calon.

Yr actor Siôn Eifion o'r gyfres newydd Stad sydd yn dewis Caneuon Codi Calon.

Mae Trystan ab Owen nol efo straeon y we, a sylwebaethau'r wythnos gan Owain Llyr.


SAT 14:00 Chwaraeon Radio Cymru (m0014nv0)
Sylwebaethau byw, yn ogystal â chanlyniadau a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.


SAT 17:30 Marc Griffiths (m0014nv2)
Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Ffion Emyr (m0014nv4)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Ffion Emyr. Music and companionship for Saturday night.



SUNDAY 20 FEBRUARY 2022

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m0014nv6)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m0014nv8)
Dechreuwch eich dydd Sul yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Sunday with Linda Griffiths' favourite music.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m0014pr7)
Mirain Iwerydd

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Mirain Iwerydd. Music and entertainment breakfast show with Mirain Iwerydd.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m0014pmj)
Gwawr Owen

Cerddoriaeth ar gyfer bore Sul, gyda Gwawr Owen. Music for Sunday morning, with Gwawr Owen.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m0014pml)
Oedfa dan arweiniad Aron Treharne, Caerfyrddin

Oedfa dan arweiniad Aron Treharne, Caerfyrddin, yn trafod gwahoddiad Crist i roi ein beichiau arno Ef a chymryd ei iau Ef (Mathew 11).

Mae'n trafod methiant pawb i gyrraedd safon Duw, maddeuant yng Nghrist a'r her i fyw gan ddysgu gan yr Iesu.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m0014pmn)
Taith emynau Eddie Ladd mewn fan hufen iâ

John Roberts yn sgwrsio gydag Eddie Ladd am ei thaith emynau mewn fan hufen iâ, yn ymweld â phedwar ar ddeg o lefydd yng Ngheredigion sydd wedi rhoi eu henwau i donau emynau.

Mae Delyth Morgan Phillips, awdur Cydymaith Caneuon Ffydd yn ychwanegu sylwadau am yr emynau a'r daith.


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m0014pmq)
Wyn Thomas

Wyn Thomas, mab fferm o Geredigion, sydd yn weinidog ac yn gweithio gydag elusen Tir Dewi yw gwestai Beti George. Mae yn byw bellach yn Drefach Felindre gyda'i ŵr Mathew ac yn bridio peunod a chadw asynod ar eu tyddyn. Mae wedi wynebu sawl her, ac mae'n siarad am ei fywyd ac yn dewis ambell gân.


SUN 13:45 Chwaraeon Radio Cymru (m0013qpw)
Dreigiau v Ulster

Sylwebaeth fyw ar gêm rygbi Dreigiau v Ulster yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig. Commentary on Dragons v Ulster in the United Rugby Championship.


SUN 16:00 Hywel Gwynfryn (m0014pmv)
Amrywiaeth o gerddoriaeth, yn ogystal â phytiau o raglenni Radio Cymru o'r wythnos a fu. Music and Radio Cymru programme highlights.


SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m000tdk6)
Caniadaeth y Cysegr

Branwen Gwyn yn cyflwyno hanner awr o ganu cynulleidfaol. Congregational singing, presented by Branwen Gwyn.


SUN 17:00 Stori Tic Toc (m000t4gz)
Bryn Bach a’i Byd Ben ei Waered

Mae Bryn yn ysu i fod yn dal, ond pan mae e’n cael ei ddymuniad dydy e ddim yn siwr ydy bod yn dal yn beth da wedi’r cyfan.


SUN 17:05 Dei Tomos (m0014pmx)
Yn gwmni i Dei mae E. Wyn James sy'n trafod hanes Beibl Mary Jones ac mae Sian Northey a Ness Owen yn dweud sut yr aethon nhw ati i gyhoeddi casgliad o gerddi am ffordd yr A470.

Hefyd, mae John Roberts yn sgwrsio am ei nofel newydd 'Yn Fyw yn y Cof' ac mae Eirwen Williams yn dewis hoff gerdd gan Dic Jones.


SUN 18:30 Papur Ddoe (m0014pmz)
Rhaglen 1

Elin Tomos sy’n dilyn trywydd yr hanesion sy’n cuddio rhwng cloriau ein hen bapurau newydd. Yn y rhaglen hon mi gawn gyfle i fwrw golwg ar fywydau rhyfeddol rhai o ferched anghofiedig Cymru:

Elen Egryn, y fenyw gyntaf i gyhoeddi cyfrol o lenyddiaeth yn y Gymraeg:
Mary Jane Innes, a ddaeth yn fenyw fusnes yn Seland Newydd;
Ellen Edwards, oedd yn gyfrifol am hyfforddi dros 1000 o forwyr yng Nghaernarfon;
A chriw Côr Merched y Penrhyn, fu'n codi arian adeg Streic Fawr Chwarel y Penrhyn.


SUN 19:00 Y Talwrn (m0014pn1)
Y Cŵps yn erbyn Tegeingl

Y Cŵps a Tegeingl yn cystadlu i fod yn bencampwyr Y Talwrn yn 2022. Two teams of bards compete in Radio Cymru's annual poetry contest.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m0014pn3)
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m0014pn5)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 21 FEBRUARY 2022

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m0014pn7)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m0014pn9)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno

Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda Daniel Jenkins-Jones yn lle John Hardy. Bwletinau newyddion, bwletin amaeth dyddiol a golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m0014ppk)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


MON 09:00 Aled Hughes (m0014nz8)
Wythnos Awyr Dywyll Cymru

A hithau'n Wythnos Awyr Dywyll Cymru, mae Dani Robertson yn ymuno gydag Aled i sôn am y prosiect, sy'n cael ei chynnal am y tro cynta’ erioed;

Mae Tom Firth yn trafod gwneud ffiseg a mathemateg yn apelgar i blant;

Nerys Hughes sy'n sôn am ddefnyddio'r dechneg o sgwennu llaw fer - un mae hi wedi bod yn ei ddefnyddio ar hyd ei hoes;

a gyda mwy a mwy o bobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio Facebook, mae Aled yn holi Guto Lloyd Davies, i ofyn a oes modd cael gwared eich proffil yn llwyr o'r rhyngrwyd.


MON 11:00 Bore Cothi (m0014nzd)
Wythnos 'bara go iawn'

Mae Shân yn dathlu wythnos 'bara go iawn' yng nghwmni Geraint Morris Jones sy'n gweithio fel pobydd yn Llydaw.

Mae 'na Munud i Feddwl gyda Tom Evans.

Y 'ffrinj' sy'n cael sylw Wendie Williams, a sylw hefyd i Gȏr Meibion Dyffryn Nantlle, a hynny 90 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu.


MON 13:00 Dros Ginio (m0014nzj)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


MON 14:00 Ifan Evans (m0014nzn)
Siôn Russell Jones yn sôn am Drac yr Wythnos

Y cerddor Siôn Russell Jones sy'n cadw cwmni i Ifan Evans i sôn am Drac yr Wythnos.

Terwyn Davies sy'n crynhoi digwyddiadau'r wythnos yn Pobol y Cwm, a chyfle hefyd i ennill pâr o docynnau rygbi yn Gwed y Gair.


MON 17:00 Post Prynhawn (m0014nzs)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


MON 18:00 Troi'r Tir (m0014nzw)
O Rydychen i Fro Ddyfi

Y bugail a'r waliwr cerrig sych Sam Robinson o Fachynlleth sy'n sôn am symud o Rydychen i fyw i ardal Bro Ddyfi, gan ddysgu'r iaith yn rhugl.

Ceredig Evans o Lanfachraeth ar Ynys Môn yn sgwrsio am gael ei enwebu yn un o gategoriau Gwobrau Lantra Cymru eleni;

Gwion Lloyd Evans o Bylchgau ger Llansannan yn rhannu profiadau o’r cyfnod ŵyna ar y fferm;

Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru sy’n crynhoi’r newyddion diweddaraf o’r martiau anifeiliaid, a Cari Fflur Thomas o Gernyw sy’n adolygu’r wasg amaethyddol.


MON 18:30 Recordiau Rhys Mwyn (m0014p00)
Meinir Gwilym

Sgwrs efo'r gantores a'r gyfansoddwraig, Meinir Gwilym. Rhys is joined by singer and songwriter Meinir Gwilym.


MON 21:00 Stiwdio gyda Nia Roberts (m0014p04)
Y Ddrama 'Carwyn', Agatha Christie a Beatrix Potter

Yn ddiweddar bu ymateb chwyrn i ddeunydd y comedïwr Jimmy Carr, ac felly mae Nia Roberts yn holi Gary Slaymaker am beth sy’n dderbyniol ac yn annerbyniol ar lwyfan comedi.

Mae Catrin Beard yn sgwrsio efo Bethan Gwanas am ei nofel ddiweddaraf ac am sut mae'n dweud stori o safbwynt ci defaid Cymreig, tra bod Meg Elis yn dadansoddi apêl ddiddiwedd addasiadau o waith Agatha Christie.

Dyfrig Davies sy'n adolygu’r ddrama “Carwyn” ac mae Elinor Gwynn yn trafod ei hargraffiadau hi o arddangosfa fawr newydd yn seiliedig ar fywyd a gwaith Beatrix Potter ac sydd newydd agor yn amgueddfa’r V&A yn Llundain.


MON 22:00 Geraint Lloyd (m0014p06)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



TUESDAY 22 FEBRUARY 2022

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m0014p08)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m0014p0b)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m0014p53)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


TUE 09:00 Aled Hughes (m0014p55)
Tsimpansîaid yn trin eu briwiau

Lloyd Antrobus sy'n trafod ymchwil newydd sydd yn dangos bod tsimpansîaid yn defnyddio pryfaid i drin eu briwiau;

Mae Daf Palfrey yn rhoi sylw i gyfres newydd Hei Hanes ar S4C;

Dr. Lucy Trotter sy'n trafod sut mae cerddoriaeth yn creu hunaniaeth, wedi iddi fod yn gwneud astudiaeth ar gerddoriaeth yn y Gaiman;

ac mae Carl Morris yn rhoi sylw i Fapio Cymru.


TUE 11:00 Bore Cothi (m0014p57)
Ifan Huw Dafydd sy'n mynd ar fordaith

Yr actor Ifan Huw Dafydd yw capten llong y fordaith heddiw.

Mae 'na Munud i Feddwl yng nghwmni Dwynwen Teifi.

Hefyd Rhonda Duncan sy'n rhoi cyngor am gadw planhigion tŷ yn yr ystafell wely, a sgwrs gyda'r bytholwyrdd Enid Davies.


TUE 13:00 Dros Ginio (m0014p59)
Jennifer Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Jennifer Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


TUE 14:00 Ifan Evans (m0014p5c)
Tomos Lewis yn trafod rygbi

Tomos Lewis o Ddihewyd sy'n sgwrsio gydag Ifan Evans i roi barn y bobl ifanc ar rygbi.

Caryl James o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd sy'n trafod pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a chyfle hefyd i ennill pâr o docynnau rygbi yn y gystadleuaeth Gwed y Gair.


TUE 17:00 Post Prynhawn (m0014p5f)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gydag Alun Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m0014p5h)
Hanna Hopwood a'i gwesteion sy'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws. Hanna Hopwood and her guests discuss things that can make life easier.


TUE 18:30 Georgia Ruth (m0014p5k)
Dewis eclectig o gerddoriaeth o gasgliad Georgia Ruth, yn cynnwys cerddoriaeth ryngwladol, byd a thraciau Cymraeg arbrofol. An eclectic selection of music.


TUE 19:30 Chwaraeon Radio Cymru (m0014p5m)
Abertawe v Bournemouth

Sylwebaeth ar gêm bêl-droed Abertawe v Bournemouth yn y Bencampwriaeth. Commentary on Swansea v AFC Bournemouth in the Championship.


TUE 22:00 Geraint Lloyd (m0014p5p)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



WEDNESDAY 23 FEBRUARY 2022

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m0014p5r)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m0014p5t)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m0014q4f)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


WED 09:00 Aled Hughes (m0014q4h)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


WED 11:00 Bore Cothi (m0014q4k)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


WED 13:00 Dros Ginio (m0014q4m)
Vaughan Roderick

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Vaughan Roderick sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


WED 14:00 Ifan Evans (m0014q4p)
Rasio tractorau ar y teledu

Dau o sêr tîm Cymru yn y gyfres rasio tractors ar BBC3 The Fast and the Farmer-ish sy'n sgwrsio gydag Ifan Evans am eu profiadau o fod yn rhan o'r gyfres.

Garry Owen Hughes o'r grŵp Yr Oria sy'n sôn am EP newydd y band sydd newydd ei ryddhau, a Gwennan Evans sy'n crynhoi'r straeon difyr diweddaraf o wefan ac app Cymru Fyw.


WED 17:00 Post Prynhawn (m0014q4r)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gydag Alun Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


WED 18:00 Papur Ddoe (m0014pmz)
[Repeat of broadcast at 18:30 on Sunday]


WED 18:30 Lisa Gwilym yn Cyflwyno... (m0014q4t)
Cerddoriaeth newydd Cymru. New Welsh music.


WED 19:30 Chwaraeon Radio Cymru (m0014q4w)
Huddersfield v Caerdydd

Sylwebaeth ar gêm bêl-droed Huddersfield v Caerdydd yn y Bencampwriaeth. Commentary on Huddersfield Town v Cardiff City in the Championship.


WED 22:00 Geraint Lloyd (m0014q4y)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



THURSDAY 24 FEBRUARY 2022

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m0014q50)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m0014q52)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m0014q7b)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


THU 09:00 Aled Hughes (m0014q3s)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


THU 11:00 Bore Cothi (m0014q3v)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


THU 13:00 Dros Ginio (m0014q3x)
Catrin Haf Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


THU 14:00 Ifan Evans (m0014q3z)
Ifan Phillips a Dyddgu Hywel yw gwesteion Ifan Evans i drafod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a'r gêm fawr yn Twickenham dros y penwythnos.

Heledd Roberts sy'n crynhoi'r straeon doniol ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod yr wythnos.


THU 17:00 Post Prynhawn (m0014q41)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


THU 18:00 Cymru Carwyn (m0014q43)
Eigra Lewis Roberts

Cyfres gyda Carwyn Jones yn trafod trysorau Cymru- y bobol, y pethau a'r hanes sy'n gwneud ein gwlad mor arbennig. Yn y bennod hon mae Carwyn yn sgwrsio gyda'r awdur Eigra Lewis Roberts er mwyn darganfod yr hyn sydd wedi ysbrydoli ei gwaith dros y blynyddoedd.


THU 18:30 Byd Huw Stephens (m0014q45)
Cerddoriaeth newydd, ambell berl anghyfarwydd a sgwrs i gael gwybod pa ganeuon sydd wedi newid bywydau pobl. New music and some unexpected gems from the archive.


THU 21:00 Beti a'i Phobol (m0014pmq)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


THU 22:00 Geraint Lloyd (m0014q47)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



FRIDAY 25 FEBRUARY 2022

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m0014q49)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m0014q4c)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno

Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda Daniel Jenkins-Jones yn lle John Hardy. Bwletinau newyddion, bwletin amaeth dyddiol a golwg ar y papurau. Early breakfast.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m0014qbq)
Huw Stephens

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Huw Stephens. Music and entertainment breakfast show with Huw Stephens.


FRI 09:00 Trystan ac Emma (m0014qbs)
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford. Music and entertainment with Trystan Ellis-Morris and Emma Walford.


FRI 11:00 Bore Cothi (m0014qbv)
Caryl Parry Jones yn cyflwyno

Croeso cynnes dros baned gyda Caryl Parry Jones yn lle Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Caryl Parry Jones sitting in for Shân Cothi.


FRI 13:00 Dros Ginio (m0014qbx)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


FRI 14:00 Tudur Owen (m0014qbz)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m0014qc1)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


FRI 18:00 Lauren Moore (m0014qc3)
Cerddoriaeth ar gyfer nos Wener yng nghwmni Lauren Moore. Friday night music with Lauren Moore.


FRI 20:00 Penwythnos Geth a Ger (m0014qc5)
Cerddoriaeth a hwyl gyda Geth a Ger, gan gynnwys Llinell yr Wythnos Pobol y Cwm! Music and fun to start the weekend.


FRI 22:00 Nos Wener Ffion Emyr (m0014qc7)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda dwy awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.