SATURDAY 06 FEBRUARY 2021

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m000rwmb)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m000rwmd)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m000s0s7)
Geraint Hardy

Sgwrs gyda Huw Chiswell, trac o ffilm, trac techno'r wythnos a llawer mwy.


SAT 09:00 Tudur Owen (m000s0sc)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m000s0sh)
Y Sioe Sadwrn

Y gantores Glain Rhys sy'n dewis Caneuon Codi Calon.

Cwis a chân efo Trystan ab Owen, sylwebaethau'r wythnos gan Owain Llyr, a'r llythyren S sy'n serennu yn 'Wyddor Chi?' yr wythnos hon.


SAT 14:00 Chwaraeon Radio Cymru (m000s0sm)
Chwaraeon Radio Cymru

Sylwebaethau byw, yn ogystal â chanlyniadau a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.


SAT 17:30 Marc Griffiths (m000s0sq)
Marc Griffiths

Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Ffion Emyr (m000s0ss)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Ffion Emyr. Music and companionship for Saturday night.



SUNDAY 07 FEBRUARY 2021

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m000s0sv)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m000s0sx)
Cymru ac Iwerddon

Linda Griffiths yn rhoi sylw arbennig i'r cysylltiadau cerddorol rhwng Cymru ac Iwerddon wrth i'r tîm rygbi cenedlaethol baratoi i herio'r Gwyddelod ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m000s2d5)
Huw Stephens

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Huw Stephens. Music and entertainment breakfast show with Huw Stephens.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m000s1fj)
Lloyd Macey

Lloyd Macey yn dewis cerddoriaeth ar gyfer bore Sul hamddenol. Lloyd Macey chooses music for a lazy Sunday.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m000s1fl)
Oedfa dan arweiniad Allan Pickard, Caerdydd

Oedfa dan arweiniad Allan Pickard, Caerdydd, yn trafod hanes yr Iesu'n iachau mam yng nghyfraith Pedr ac yn ystyried ystyr iachâd. Mae hefyd yn holi sut y mae Crist yn gweithredu yn y byd heddiw, trwy ei bobl. Darllenir darnau o'r Ysgrythur gan Avril Pickard.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m000s1fn)
Brechlyn Covid, agweddau at LGBT a chryfder adwaith

John Roberts a'i westeion yn trafod rhannu brechlyn Covid i wledydd tlawd y byd gydag Elin Mererid ac Anna Jane Evans tra bod Gwenfair Griffith yn holi sut y mae'r gymuned Islamaidd yn annog derbyn brechlyn.

Trafodaeth ar agweddau at LGBT gyda Sheridan Angharad James.

Hefyd, holi a ydym yn gymdeithas mwy adweithiol y dyddiau hyn gydag Anna Jane Evans ac Ifan Morgan Jones.


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m000sdwt)
Machraeth (Robert John Henry Griffiths)

Cyfle arall i glywed sgwrs Beti George â'r bardd o Fôn, Machraeth, a fu farw mis Tachwedd llynedd.


SUN 13:45 Shorts Huw (m000sdww)
Huw Llywelyn Davies yn cwrdd ag un o gewri'r bêl hirgron, cyn-gefnwr Cymru a'r Llewod, Terry Davies.


SUN 14:00 Caniadaeth y Cysegr (m000s1fd)
Ffydd

R. Alun Evans yn cyflwyno hanner awr o ganu cynulleidfaol ar y thema Ffydd. Congregational singing.


SUN 14:30 Chwaraeon Radio Cymru (m000s1fs)
Cymru v Iwerddon

Cymru v Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Wales v Ireland in the Six Nations Rugby Championship.


SUN 17:05 Dei Tomos (m000s1fx)
Dei Tomos yn trafod gohirio'r Eisteddfod Genedlaethol, suddo'r Eleth a chofio Einion Evans

Dei Tomos yn trafod canlyniad gohirio'r Eisteddfod Genedlaethol ar fyd llen a chelf gyda Gerwyn Williams a Karen Owen; suddo'r llong yr Eleth 70 mlynedd yn ôl gyda Robyn Williams; cofio Einion Evans yn ennill y gadair yn 1983 gyda Norman Closs Parry, ac Ian Gwyn Hughes yn dewis ei hoff gerdd sef Englynion Coffa Hedd Wyn gan R. Williams Parry.


SUN 18:30 Cwsg Ni Ddaw (m000s0np)
Ni all Hywel Gwynfryn gysgu ac mae’n broblem hunllefus. Beth yw’r gyfrinach i noson dda o gwsg? Hywel Gwynfryn is an insomniac, on a tireless journey in search of sleep.


SUN 19:00 Y Talwrn (m000s0nt)
Y Ffoaduriaid a Llanrug

Dau dîm o feirdd yn cystadlu i fod yn bencampwyr Y Talwrn yn 2021. Two teams of bards compete in Radio Cymru's annual poetry contest.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m000s1fz)
Ar Eich Cais

Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m000s1g1)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 08 FEBRUARY 2021

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m000s1g5)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m000s1g9)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno

Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda Daniel Jenkins-Jones yn lle John Hardy. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m000s305)
Dafydd a Caryl

Hywel Llion sy'n son am yr hyn sydd ar y bocs, ac Ysgol Llanilar sy'n dewis Tiwn y Tim, Hywel Llion will be letting us know what's on the box.


MON 09:00 Aled Hughes (m000s109)
Gwobrau'r Selar

Owain Schiavone sy'n lawnsio Gwobrau Selar ac fe glywn ni pwy sy'n dod i'r brig yng nghategori "Seren y Sîn"; Sgwrs efo Mathew Rees sy'n athro draw yn Tseina; hefyd, Eifion Francis a Hayley Keohane yn trafod beics!


MON 11:00 Bore Cothi (m000s10g)
Bronwen Lewis

Y gantores Bronwen Lewis sy'n sôn am ei chyngherddau rhithiol bob nos Wener, tra bod Sion Meredith yn rhoi munud i ni gael meddwl.


MON 12:30 Dros Ginio (m000s10l)
Catrin Haf Jones

Catrin Hâf Jones a’i gwesteion yn trafod:

Y newyddion diweddaraf am Covid-19;
Edrych yn nôl ar benwythnos o chwaraeon;
Beth yn union yw 'gargoel'?;
Cofio 10 mlynedd ers y rhyfel yn Syria;
Sgwrs gydag un sydd wedi bod ar flaen y gad yn dylunio a chynhyrchu brechlyn AstraZeneca;
Gwestai ‘dau cyn dau’ ydy bardd mis Chwefror Radio Cymru, Siân Northey, a’i mherch Sioned.


MON 14:00 Ifan Evans (m000s10q)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


MON 17:00 Post Prynhawn (m000s10v)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Nia Thomas.


MON 18:00 Troi'r Tir (m000s10z)
Hanes Siôn Williams sy'n rheoli fferm Ystâd Bowhill ger Selkirk yn yr Alban.

Hefyd, Betsan Jane o Langwyryfon yng Ngheredigion sy'n cyfuno ffermio a gwnïo.

A stori Philip a Heledd Dancer o'r Canolbarth sydd wedi mentro i gymryd tenantiaeth ar fferm gyngor, a hynny heb unrhyw gefndir ffermio o gwbl.


MON 18:30 Recordiau Rhys Mwyn (m000s113)
Rhywioldeb

Rhys Mwyn sy’n cyflwyno detholiad o ganeuon a cherddoriaeth ar thema rhywioldeb.


MON 21:00 Stiwdio (m000s117)
Gwobrau'r Selar

A hithau’n wythnos Gwobrau’r Selar ar Radio Cymru, sylw heno i grefft yr adolygwyr cerddoriaeth a sgwrs efo Chris Roberts, Gwilym Dwyfor a Miriam Elin Jones am y sîn adolygu cerddoriaeth yng Nghymru.

Nia Roberts hefyd yn sgwrsio efo’r awdures Gwenno Hughes am y gyfres ddrama newydd “Fflam” sydd i’w gweld ar S4C yr wythnos hon, a'r perfformwyr Chris Harris a Gareth John Bale yn trafod prosiect theatrig, digidol newydd o’r enw “Y Llyfrgell Symudol yr Anarchydd”.

Hefyd, Catrin Beard sy'n sgwrsio efo’r awdur a chyn bennaeth y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green.


MON 22:00 Geraint Lloyd (m000s11f)
Tom Moore sydd yn derbyn Her yr Het wythnos yma, a chawn glywed am Eisteddfod Gwyl Dewi Cymdeithas Ceredigion gyda Carol Byrne Jones.



TUESDAY 09 FEBRUARY 2021

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m000s11m)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m000s11t)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m000s2m6)
Dafydd a Caryl

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl, ac Ellis Lloyd Jones sy'n trafod poblogrwydd RuPaul's Drag Race.


TUE 09:00 Aled Hughes (m000s1n4)
Hercule Poirot

Yr awdures Gwen Parrott yn trafod y cymeriad Hercule Poirot, ymddangosodd am y tro cyntaf ym Mhrydain yn nofel Agatha Christie "The Mysterious Affair at Styles" 100 mlynedd yn ôl; Elin Prydderch sy'n olrhain hanes siwgr; Manon Llwyd a Huw Ynyr yn trafod gweithdai opera arbennig sy'n cael eu trefnu gan Opera Cymru;
Hefyd Jo Partridge sy'n sôn am ffenestri lliw gan ganolbwyntio ar rai o Gymru.


TUE 11:00 Bore Cothi (m000s1n8)
Pytiau Comedi Wyn a Viv

Gwenno Rice sy'n sôn am Brosiect Cymunedol Tafarn yr Heliwr yn Nefyn, ac mae Steffan Evans yn ymuno i sôn am bytiau comedi Wyn a Viv ar Facebook.

Carol Hardy sy'n rhoi Munud i Feddwl i ni.


TUE 12:30 Dros Ginio (m000s1nd)
Jennifer Jones

Jennifer Jones a’i gwesteion yn trafod:

Y newyddion diweddaraf am Covid-19

Profiadau ymdopi byw ar eich pen eich hun yn y cyfnod diweddar

Sut mae osgoi galwadau ffôn niwsans

Sgwrs gyda meddyg ar Ynysoedd Shetland

Hanes busnes llewyrchus gwraig o Aberystwyth a'i chynnyrch ar gyfer gwallt cyrliog


TUE 14:00 Ifan Evans (m000s1nk)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


TUE 17:00 Post Prynhawn (m000s1np)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m000s1nt)
Hanna Hopwood Griffiths sy'n gofyn be sy'n gwneud bywyd yn haws i Elin Wade sydd yn dioddef o gyflwr ar ei chroen a Cerys Davage, myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac mae rhai o wrandawyr y rhaglen yn rhannu pan gân sy'n gwneud bywyd yn haws iddyn nhw.


TUE 18:30 Sian Eleri (m000s1ny)
Sian Eleri yn cyflwyno cymysgedd o gerddoriaeth newydd i ymlacio iddi, ac yn cyhoeddi enillwyr categoriau Artist Newydd ac Artist Unigol Gwobrau'r Selar. Hefyd sgwrs efo Elan Evans am y Gwobrau.


TUE 21:00 Dei Tomos (m000s1p2)
Gohirio'r Eisteddfod Genedlaethol, suddo'r Eleth ac englynion coffa Hedd Wyn

Dei Tomos yn trafod canlyniad gohirio'r Eisteddfod Genedlaethol ar fyd llen a chelf gyda Gerwyn Williams a Karen Owen.

Cawn hanes suddo'r llong yr Eleth 70 mlynedd yn ôl gyda Robyn Williams.

Ian Gwyn Hughes sy'n dewis ei hoff gerdd, sef Englynion Coffa Hedd Wyn gan R. Williams Parry.


TUE 22:00 Geraint Lloyd (m000s1p5)
Dod i adnabod Dylan Morris

Cawn 'ddod i nabod' y canwr Dylan Morris, Eiry Miles sydd yn sôn am gwrs dros nos yn Llangrannog, a ble sydd Ar y Map yr wythnos hon?



WEDNESDAY 10 FEBRUARY 2021

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m000s1pb)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m000s1pf)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m000s0n9)
Dafydd a Caryl

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.


WED 09:00 Aled Hughes (m000s0nc)
Fflam

Yr actorion Gwyneth Keyworth a Richard Harrington sy'n trafod drama newydd "Fflam" sydd ar S4C, tra bod Marc Roberts sôn pam ei fod wedi gwirioni cymaint efo "rollercoasters".

Gwenllian Roberts ac Arwel Jones yn trafod yr angen i leihau gwastraff bwyd a Nia Haf Jones o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy'n sôn am y gostyngiad mewn niferoedd siarcod dros yr hanner can mlynedd diwethaf.


WED 11:00 Bore Cothi (m000s0nf)
Apêl Gwawr o Obaith

Jên Dafis ar ran Merched y Wawr yn sôn am Apêl Gwawr o Obaith.

Lleucu Edwards yn sgwrsio am Wythnos Prentisiaethau gyda'r Coleg Cymraeg.

Hefyd, Rhian Iorwerth yn cynnig Munud i Feddwl.


WED 12:30 Dros Ginio (m000s0nh)
Vaughan Roderick

Vaughan Roderick a’i westeion yn trafod:

Y newyddion diweddaraf am Covid-19

Arwyddocâd y lliw ‘porffor’ yn yr ysgrythurau

Y newyddion fod mwy o farwolaethau'r pen wedi bod ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ers mis Mawrth, nag mewn unrhyw ardal arall ym Mhrydain

Poblogrwydd wythnos waith pedwar diwrnod a gweithio'n hyblyg yn sgil y pandemig

Yr enwau newydd ar rai pysgod er mwyn hybu gwerthiant a phoblogrwydd


WED 14:00 Ifan Evans (m000s0nk)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


WED 17:00 Post Prynhawn (m000s0nm)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.


WED 18:00 Cwsg Ni Ddaw (m000s0np)
[Repeat of broadcast at 18:30 on Sunday]


WED 18:30 Lisa Gwilym yn Cyflwyno... (m000s0nr)
Enillydd Gwobr 2020 Gwobrau'r Selar

Cyhoeddi enillydd Gwobr 2020 Gwobrau’r Selar, a sgwrs gyda Geraint John o Boobytrap.


WED 21:00 Y Talwrn (m000s0nt)
[Repeat of broadcast at 19:00 on Sunday]


WED 22:00 Geraint Lloyd (m000s0nw)
Elusen Nightingale House

Hanes codi arian at elusen Nightingale House gydag El Eve, ac Aled Wyn Davies yw Ffrind y Rhaglen.



THURSDAY 11 FEBRUARY 2021

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m000s0ny)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m000s0p0)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m000s37r)
Dafydd a Caryl

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.


THU 09:00 Aled Hughes (m000s372)
Yr Urdd a TG Lurgan

Lewys Wyn yn trafod ail brosiect Urdd Gobaith Cymru a mudiad ieuenctid Gwyddeleg TG Lurgan.

Cyhoeddi enillydd categori "Record Fer Orau" Gwobrau'r Selar 2021.

Y gwyddonydd Deri Tomos yn esbonio yr angen i gynhyrchu mwy o fatris yn y dyfodol a Steffan Alun yn sôn am Her Ffilm Hansh i ddathlu Mis Hanes LHDT+.


THU 11:00 Bore Cothi (m000s374)
Eisteddfod Ddwl y Dysgwyr

Dylan Garner sy'n rhannu ei hoff lecyn o fynd am dro tra bod Bethan Jones yn sôn am Eisteddfod Ddwl y Dysgwyr sydd ar y gweill.

Hefyd, Bardd y Mis, Sian Northey sy'n ymuno â Shân am sgwrs.


THU 12:30 Dros Ginio (m000s376)
Catrin Haf Jones

Catrin Hâf Jones a'i gwesteion yn trafod:

 hithau’n fis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, tybed a ydan ni wedi troi’n gymuned o roi pobl mewn bocsys â labeli arnyn nhw?

Sgwrs gyda Craig Stephenson, Dirprwy Gadeirydd LGBTQymru, aelod o'r Tribiwnlys Cyflogaeth a Chadeirydd Côr Meibion Hoyw De Cymru.

Y grefft o ysgrifennu nofelau hanesyddol.

Effaith y mesurau busnes newydd gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Cuba.

A hanes cwmni sandalau orthopaedeg ‘Birkenstock’, cwmni sydd yn 247 oed ac fwy llewyrchus nag erioed!


THU 14:00 Ifan Evans (m000s378)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


THU 17:00 Post Prynhawn (m000s37b)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.


THU 18:00 Penben I Dimau (m000s37d)
Lois a Carwyn v Hannah ac Emily

Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol. Yr wythnos hon, Lois a Carwyn sy'n herio Hannah ac Emily.

Dau sy'n byw ym Meidrim ger Caerfyrddin ydy Lois Morus a Carwyn Jones. Mae Carwyn yn ffermwr, ac mae Lois, yn wreiddiol o Wrecsam yn gweithio i Fenter Dinefwr.

Dwy chwaer o Drimsaran ger Llanelli ydy Hannah ac Emily Elcock. Mae Hannah yn gweithio fel perfformiwr, yn canu, dawnsio, actio a modeli. Ei 'claim to fame' yw ei bod hi wedi bod ar wefan Vogue! Mae Emily yn gweithio fel rheolwr cartref i rai sydd angen cymorth byw. Ei 'claim to fame' yw ei bod hi wedi syrfio Rhod Gilbert a Lee Evans yn Costa Pontabram!


THU 18:30 Byd Huw Stephens (m000s37h)
Gwobrau'r Selar 2021

Parhau gyda dathliadau Gwobrau Selar 2021 drwy wobrwyo Lleucu Non am ei animeiddiad o'r Fideo Cerddoriaeth Gorau ar gyfer y gân Dos yn Dy Flaen gan Bwncath.

Sgwrs estynedig arbennig hefyd gydag enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig y Selar 2021, sef Gwenno. Mae'n edrych yn ôl dros ei gyrfa o'r dyddiau pan oedd hi'n 16 yn Lord of the Dance i ryddhau albym Gernyweg Le Kov.


THU 21:00 Beti a'i Phobol (m000sdwt)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


THU 21:45 Shorts Huw (m000sdww)
[Repeat of broadcast at 13:45 on Sunday]


THU 22:00 Geraint Lloyd (m000s37k)
Sut hwyl mae Tom Moore wedi ei gael gyda Her yr Het?



FRIDAY 12 FEBRUARY 2021

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m000s37m)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m000s37p)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m000s402)
Huw Stephens

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Huw Stephens. Music and entertainment breakfast show with Huw Stephens.


FRI 09:00 Trystan ac Emma (m000s3rj)
Cacennau Penblwydd, Cân y Bore a Cwis Yodel Ieu

Cyfle i un o'r gwrandawyr ddewis Cân y Bore, Vicky Jones o Benmaenmawr yn trafod cacennau penblwydd o bob math ac wrth gwrs mae Yodel Ieu nôl efo'i gwis wythnosol.


FRI 11:00 Bore Cothi (m000s3rl)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


FRI 12:30 Dros Ginio (m000s3rn)
Dewi Llwyd

Dewi Llwyd a’i westeion yn trafod:

Y newyddion diweddaraf am Covid-19 yn sgil Cynhadledd Llywodraeth Cymru

Edrych ymlaen tuag at benwythnos o chwaraeon

Cyfeiriadau tuag at gariadon yng Nghyfreithiau Hywel Dda

Sut mae cael swydd fel gofodwr y dyfodol

Gwleidyddiaeth America

Pwysigrwydd ymarfer yr ymennydd


FRI 14:00 Tudur Owen (m000s3rq)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m000s3rs)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.


FRI 18:00 Lauren Moore (m000s3rv)
Dwy awr o gerddoriaeth yng nghwmni Lauren Moore. Two hours of music with Lauren Moore.


FRI 20:00 Penwythnos Geth a Ger (m000s3rz)
Cerddoriaeth a hwyl gyda Geth a Ger, gan gynnwys Llinell yr Wythnos Pobol y Cwm! Music and fun to start the weekend.


FRI 22:00 Nos Wener Ffion Emyr (m000s3s3)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda dwy awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.